Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

20 Mawrth 2017

SL(5)073 – Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau drafft hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau ) (Cymru) 2011 er mwyn sicrhau bod system ddigonol ar gyfer apelio yn erbyn hysbysiad a roddir am beidio â thalu ffioedd a blaendaliadau a godir yn unol â'r pwerau a grëwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Deddf Wreiddiol: Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

Fe'u gosodwyd ar:7 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017

SL(5)074 – Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mewnosodwyd adran 144A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014gan adran 56 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.

Mae adran 144A(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf yr adroddiad blynyddol. Mae’r gofynion o ran ffurf yr adroddiad blynyddol wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen yn disgrifio’r penawdau y mae rhaid i’r wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol, gael eu nodi oddi tanynt.

Deddf Wreiddiol: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 5 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:8 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 4 Medi 2017

SL(5)075 – Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Bydd y Rheoliadau hyn yn disodli’r ffioedd a’r taliadau presennol ar gyfer y system drwyddedu morol yng Nghymru o dan Reoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffioedd trwyddedu morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

O dan adran 67(1)(b) o’r Ddeddf honno, caiff yr awdurdod trwyddedu priodol ei gwneud yn ofynnol i ffi gyda-fynd â chais am drwydded forol. Er enghraifft, mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn darparu bod y ffi ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded naill ai yn ffi benodedig neu’n swm a gyfrifir drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.

Deddf Wreiddiol: Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

Fe’u gwnaed ar: 6 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:8 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017